Mae Tric a Chlic yn un o'r adnoddau mwyaf poblogaidd y mae Canolfan Peniarth wedi'i gyhoeddi. Mae'r adnodd Tric a Chlic yn gynllun darllen ffonig synthetig blaengar a systematig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sy'n ymgorffori tri cham. Yn dilyn llwyddiant y cynllun mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru, mae Canolfan Peniarth bellach wedi datblygu ap iOS i fynd gyda Tric a Chlic.
댓글